enEnglishcyCymraeg

Ystadegau a phrofiadau newydd

Ystadegau a phrofiadau newydd

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ymchwil yn dilyn gwaith a wnaed gan arweinydd y byd mewn ymchwil gofalwyr ifanc, yr Athro Saul Becker, ynghyd â Phrifysgol Nottingham a’r BBC. Roedd yr ymchwil hon yn darparu tystiolaeth bod gan oddeutu un o bob pump o blant oed ysgol statudol ryw lefel o gyfrifoldeb am ddarparu gofal gartref, ar gyfer aelod o’u cartref o ganlyniad i gyflyrau meddygol, cyflyrau iechyd meddwl, neu gaethiwed. Yn y DU, mae ymchwil yn dangos bod 50% o ofalwyr ifanc yn parhau i fod yn gudd, ac yn GSCE, gallant fod cymaint â naw gradd yn is na’u grŵp cyfoedion mewn cyflawniad, yn ogystal â bod â chyfraddau presenoldeb llawer is.

“Mae Prosiect Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru wedi’i leoli o amgylch lleoliadau addysgol gofalwyr ifanc. Bydd y peilot cychwynnol yn rhedeg am oddeutu 2 flynedd rhwng 2021-2023 ar draws Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy, i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i wasanaethau statudol a ddarperir eisoes trwy Wasanaethau Plant ac Addysg.

Amcangyfrifir bod tua 9,500 o ofalwyr ifanc ar draws ardal beilot Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru amcangyfrifir bod 3,623 o ofalwyr ifanc ledled Wrecsam, 2,969 o ofalwyr ifanc ledled Sir Ddinbych a 3,000 o ofalwyr ifanc ledled Conwy.

 

 


Oeddet ti’n gwybod….

Mae’r BBC yn amcangyfrif bod tua 700,000 o ofalwyr ifanc yn y DU

 

Arwyddlen Cylchlythyr