enEnglishcyCymraeg

Adolygiad Haf 2022

Adolygiad Haf 2022

5th Hyd 2022

Mae haf 2022 yn garreg filltir bwysig yn y cy­dweithio rhwng Sefydliad Neumark a Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru drwy ddarparu rhaglen o weithgareddau haf yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgared­dau wedi’i hariannu gan Sefydliad Neumark gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd seibiant strwythuredig i ofalwyr ifanc yng Ngogledd Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf, y bwriad yw adeiladu ar lwyddiant y rhaglen hon er mwyn cynnig cyfle i fwy o ofalwyr ifanc gymryd rhan ac ehangu’r ystod o weithgareddau sy’n cael eu cynnig. Wrth ichi ddarllen yr adroddiadau ar sut y mae gofalwyr ifanc wedi ymgysylltu â’r rhaglen weithgareddau ac edrych ar wynebau’n gwenu, gallwch fod yn sicr pa mor werthfawr yw’r rhaglen seibiant o ran cefnogi plant sy’n ofalwyr ifanc. Roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn croesawu’r cyfleoedd a oedd ar gael, weithiau’n wynebu eu hofnau ac yn cefnogi ei gilydd yn gyffredinol i gael amser da gyda’i gilydd.

Lawrlwytho Ffeil

Adolygiad Haf 2022

Arwyddlen Cylchlythyr