
Partneriaid
Mae Sefydliad Neumark wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, ac fe’i sefydlwyd yn 2016 gan y teulu Neumark.
Prif nod y Sefydliad yw cefnogi elusennau, grwpiau elusennol ac unigolion y mae eu gwaith yn cael effaith gadarnhaol hirhoedlog ar les ac ansawdd bywyd pobl ifanc, trwy wella rhagolygon a dewisiadau bywyd, gan eu hysbrydoli i fachu ar gyfleoedd newydd.
Ym mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ymchwil yn dilyn gwaith a wnaed gan arweinydd y byd mewn ymchwil gofalwyr ifanc, yr Athro Saul Becker, ynghyd â Phrifysgol Nottingham a’r BBC. Roedd yr ymchwil hon yn darparu tystiolaeth bod gan oddeutu un o bob pump o blant oed ysgol statudol ryw lefel o gyfrifoldeb am ddarparu gofal gartref, ar gyfer aelod o’u cartref o ganlyniad i gyflyrau meddygol, cyflyrau iechyd meddwl, neu gaethiwed. Yn y DU, mae ymchwil yn dangos bod 50% o ofalwyr ifanc yn parhau i fod yn gudd, ac yn GSCE, gallant fod cymaint â naw gradd yn is na’u grŵp cyfoedion mewn cyflawniad, yn ogystal â bod â chyfraddau presenoldeb llawer is.